Bydd 200 o denantiaid yn manteisio ar aelodaeth ffitrwydd am ddim a chyfleoedd hyrwyddo cymunedol diolch i bartneriaeth ddinesig.

Mae cynllun newydd wedi’i lansio i godi cyfraddau gweithgarwch corfforol ac ansawdd bywyd 200 o denantiaid Cartrefi Dinas Casnewydd (CDC) sydd wedi’u hynysu, sy’n anweithgar ac sydd angen cymorth. Mae CDC wedi creu partneriaeth gyda Casnewydd Fyw a Chwaraeon Cymru i gynnig aelodaeth chwe mis i breswylwyr yn lleoliadau Casnewydd Fyw, gan roi mynediad iddynt i gyfleusterau a gwasanaethau gan gynnwys campfeydd Casnewydd Fyw, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, pyllau nofio a chwaraeon raced, ynghyd â phrofion iechyd, cymorth ysgogol a phecynnau cymorth personol.

Bydd y cynllun hefyd yn nodi a hyfforddi nifer o ‘Hyrwyddwyr Cymunedol’ o blith y 200 o denantiaid at ddibenion datblygu unigol ond hefyd fel y gallant gynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn eu cymunedau.

Mae gan Cartrefi Dinas Casnewydd 11,000 o gartrefi yn y ddinas a thua 12,000 o denantiaid yn byw yn eu llety. Bydd y cynllun ar agor i’r rheini sy’n byw mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol lefel isel sydd ag incwm cartref cyfartalog o lai na £15,000.

Dywedodd Leigh Williams, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corffol yn Casnewydd Fyw, “Mae tystiolaeth yn dangos mai pobl ar incwm isel sydd fwyaf tebygol o ddioddef o iechyd corfforol a meddwl gwael ac allgáu cymdeithasol, felly gall cynyddu gweithgarwch corfforol ddod â manteision mawr o ran iechyd corfforol a meddwl a lleihau cyflyrau iechyd difrifol fel clefyd coronaidd y galon a diabetes”. “Nod yr aelodaeth tenantiaid yw rhoi help llaw i bobl fregus er budd iddyn nhw a'u cymunedau. Mae cymaint o’r aelodau cymwys yn bobl a fyddai’n hoffi bod yn fwy iach ac actif ond sy’n wynebu cyfyngiadau ariannol neu iechyd. Mae’n ddigon posib nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau. Bydd y cynllun hwn yn eu helpu i ddilyn y trywydd cywir, gan eu grymuso a’u hysbrydoli i fod yn hapusach ac iachach.”

Yn gyfnewid am yr aelodaeth, bydd y tenantiaid yn gwneud nifer o ymrwymiadau, gan gynnwys cymryd rhan mewn o leiaf dair sesiwn o weithgarwch corfforol bob pythefnos a chwblhau holiaduron iechyd a lles yn ystod yr aelodaeth.

 “Gall cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol wneud gwahaniaeth mawr i iechyd corfforol a meddwl yn ogystal â datblygu sgiliau a hyder a lleihau allgáu cymdeithasol,” meddai Lauren Carter-Davies, Uwch Swyddog yn Chwaraeon Cymru. “Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos y gall cost fod yn rhwystr. Dyma pam bod Chwaraeon Cymru yn falch o gefnogi Cynllun Aelodaeth Tenantiaid Cartrefi Dinas Casnewydd gyda’r nod o chwalu’r rhwystrau hyn a sicrhau bod mwy o bobl yng Nghasnewydd yn mwynhau chwaraeon. Rydym yn awyddus i weld beth sy’n gweithio fel rhan o’r cynllun hwn er mwyn llywio'r gwaith o ddylunio cynlluniau eraill yn y dyfodol.”

Dywedodd Sam Reed, Arweinydd Tîm Cynnal Cymunedau Cartrefi Dinas Casnewydd: “Yn Cartrefi Dinas Caerdydd, rydym bob amser yn rhoi’r preswylydd wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud, a dyma’r cynllun diweddaraf i helpu preswylwyr i fyw bywydau hapusach, iachach. Mae’n enghraifft wych o waith partneriaeth yn y ddinas i wella ansawdd bywyd ein preswylwyr. Bydd yr aelodaeth am ddim yn galluogi preswylwyr i gael mynediad i nifer o weithgareddau, gan gynnwys campfa, nofio, ymarfer grŵp a chwaraeon raced. Y gobaith yw y bydd hyn yn eu hysbrydoli i gofleidio ffordd actif o fyw, gan fod ymchwil yn dangos bod cysylltiadau clir rhwng lles corfforol a meddyliol. Gall ymarfer corff gael effaith ar eich agwedd at fywyd. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau gweithio ar eich ffitrwydd.”

Cafodd yr Aelodaeth Tenantiaid ei lansio’n swyddogol yng Nghanolfan Casnewydd Casnewydd Fyw ddydd Mawrth 29 Mai gan Gadeirydd Casnewydd Fyw, John Harrhy, a mynychodd partneriaid allweddol y cynllun; Chwaraeon Cymru, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Cyngor Dinas Casnewydd (Datblygu Cymunedol) a Teuluoedd yn Gyntaf.

Gall tenantiaid a hoffai gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth tenantiaid ffonio Michelle Carlyle ar 01633 227887.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ac aelodaeth Casnewydd Fyw, ewch i newportlive.co.uk neu dilynwch @NewportLiveUK ar Facebook, Twitter ac Instagram.