Gyda misoedd y gaeaf yn golygu tywydd oerach a llai o olau dydd, mae'n neilltuol o bwysig i bobl hŷn gadw'n dwym.

Gall diffyg cynhesrwydd waethygu problemau iechyd sylfaenol. Dyma rai cynghorion i'ch helpu i gadw'n ddiogel y gaeaf hwn:

  • Gwneud yn siŵr y caiff eich gwres a'ch cyfarpar coginio eu gwirio'n rheolaidd.
  • Ysgubo ffliwiau a simneiau i sicrhau na chaiff pwyntiau awyru eu blocio.
  • Gwirio fod larymau carbon monocsid a mwg yn gweithio.
  • Cadw meddyginiaeth syml ar gyfer yr anwyd a ffliw adref, fel nad yw'n rhaid i chi fynd allan os nad ydych yn teimlo'n dda.
  • Rhoi'r gorau i ysmygu a byddwch yn sylwi mewn dim o dro fod anadlu'n hawdd a'i bod yn fwy cysurus ymarfer. Mae grwpiau cefnogaeth ar gael.
  • Cael brechiad ffliw - gall pobl 65 oed a throsodd a rhai pobl iau gyda rhai cyflyrau iechyd gael brechiad ffliw am ddim.
  • Golchi'ch dwylo'n rheolaidd i atal haint rhag lledaenu megis anwyd neu byg taflu fyny y gaeaf.
  • Cadw golwg reolaidd ar ragolygon y tywydd.
  • Archebu presgripsiynau mynych mewn digon o bryd i wneud yn siŵr na chewch eich gadael heb gyflenwadau o'ch meddyginiaeth arferol os yw'r tywydd yn wael.
  • Cadw stoc o fwydydd tun, rhew a sych, fel y gallwch ymdopi am ychydig ddyddiau neu wythnos os na allwch fynd allan i'r siop ac nad oes neb o gwmpas i helpu.
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn bwyta gystal ag y gallwch fforddio, cael diodydd poeth a symud o amgylch o bryd i'w gilydd yn hytrach nag eistedd drwy'r dydd. Bydd hyn i gyd yn helpu i atal tymheredd eich corff rhag gostwng gormod.