Rydym yn cynnig dwy wythnos ddi-rent i breswylwyr y flwyddyn, os ydynt yn cadw credyd ar eu cyfrif.

Mae'r wythnos ddi-rent nesaf yn dechrau ddydd Llun 25 Rhagfyr.

Os ydych mewn credyd ac yn talu eich rhent drwy ddebyd uniongyrchol bob bythefnos, bob pedair wythnos neu bob mis, nid oes angen i chi newid eich taliadau. Rydyn ni'n cyfrif eich taliad rhent, gan roi ystyriaeth i'r ddwy wythnos am ddim y byddai gennych hawl iddynt.

Os oes gennych ôl-ddyled rhent, disgwylir i chi wneud eich taliad arferol i roi cyfle i chi ddal lan. Byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig cyn yr wythnos ddi-rent os disgwylir i chi wneud taliad.

Cysylltwch â'ch swyddog incwm neu ffonio 01633 381111 i gael mwy o wybodaeth.