Mwynhaodd preswylwyr Shaftesbury Court ymweliad arbennig gan blant ysgol.

Ymwelodd disgyblion o gôr Ysgol Gynradd Crindau â chynllun tai gwarchod Cartrefi Dinas Casnewydd a pherfformio detholiad o ganeuon i gynulleidfa o breswylwyr oedd wrth eu bodd.

Dywedodd Sharon Holbrook, rheolwr y cynllun: "Roedd y perfformiad yn wych ac fe wnaeth pawb ohonom fwynhau'r sioe yn fawr iawn. Roedd y disgyblion yn canu'n hyfryd ac yn ymddwyn yn berffaith. Roedd yn wych. Fe wnaethant ganu rhai hen ganeuon a rhai modern, yn ogystal â chân arbennig yr ysgol. Cafodd yr holl breswylwyr amser gwych a hoffem ddweud diolch yn fawr i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran."

Dywedodd Kim Fisher, dirprwy bennaeth yr ysgol: "Rydym yn falch iawn o'n côr ysgol. Fe wnaeth y bobl fwynhau mynd allan i'r gymuned leol. Mae'n hyfryd clywed fod preswylwyr Shaftesbury Court wedi mwynhau'r perfformiad."