Mae ymgysylltu â phreswylwyr yn rhan o DNA Cartrefi Dinas Casnewydd. Rydym wedi lansio strategaeth newydd ar ymgysylltu gyda preswylwyr i nodi ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gyda'n preswylwyr.

Beth sy'n newydd?

Rydym eisiau gweithio law yn llaw gyda phreswylwyr i wella ein gwasanaethau. Felly rydym yn gwneud yn siŵr fod gennych amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan ar bob lefel o wneud penderfyniadau.

Pam ydym yn gwneud hyn?

Rydych wrth galon popeth a wnawn. Gallwch ddweud wrthym os ydym yn cael pethau'n iawn. Neu'n hanfodol, os nad ydym yn ei chael hi'n iawn. Ac os nad ydym yn ei chael hi'n iawn, rydym eisiau deall hynny a gweithio gyda chi i wella ein gwasanaethau.

Sut ydym yn gwneud hyn?

Byddwn yn gwrando arnoch chi, siarad gyda chi a gweithredu ar eich adborth. Gwnawn hyn ar-lein, wyneb yn wyneb neu unrhyw ffordd sy'n gweithio i chi. Bydd Panel Craffu o breswylwyr yn canolbwyntio ar sut y gallwn wneud pethau'n wahanol, yn well.

Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i chi?

Bydd gennych rôl allweddol wrth lunio ein gwasanaethau. Gwasanaethau sydd â ffocws ar breswylwyr. Ffocws arnoch chi.

Nid siarad gwag mo hyn. Byddwch hefyd yn ein dal i gyfrif a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn a ddywedwn.