Fe wnaethom groesawu Rebecca Evans, gweinidog newydd tai ac adfywio, i Milton Court yn ddiweddar i siarad gyda phreswylwyr am eu profiadau o osod systemau chwistrellu yn eu cartrefi.

Cafodd systemau chwistrellu eisoes eu gosod yn yr holl gartrefi ac ardaloedd cymunol yn Hillview, ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Milton Court a Greenwood. Maent yn fesur diogelwch tân ychwanegol i fynd gyda'r rhai a osodwyd eisoes yn y fflatiau tŵr yn cynnwys:

  • Larymau mwg/tân ym mhob cartref ac mewn ardaloedd cymunol
  • Paent atal tân mewn ardaloedd cymunol
  • Drysau tân ar gyfer ardaloedd cymunol a drysau blaen fflatiau unigol
  • Dwy set o risiau sy'n gweithredu fel llwybrau dianc

Dywedodd Robert Lynbeck, cyfarwyddydd gweithredol gweithrediadau Cartrefi Dinas Casnewydd: "Roeddem yn falch iawn i groesawu'r gweinidog i Milton Court i siarad gyda phreswylwyr am eu profiadau o osod y systemau chwistrellu yn eu cartrefi. Fe wnaeth alluogi'r Gweinidog i weld drosti ei hun faint y gwaith, yr heriau a wynebwn wrth sicrhau fod budd gorau preswylwyr wrth galon ein gweithredu, a sut y buom yn gweithio gyda United Living a RSP Sprinklers Wales i leihau unrhyw ymyriad a rhoi sicrwydd i breswylwyr."