Bu diogelwch ein preswylwyr bob amser yn flaenoriaeth ar gyfer Cartrefi Dinas Casnewydd, a bydd hynny'n parhau.

Bob blwyddyn cynhaliwn ymarferiad hyfforddiant gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar ein blociau tŵr. Mae'r ymarferion yn ein helpu i wneud yn siŵr y gall ymladdwyr tân ymateb yn gyflym mewn argyfwng.

Mae gennym hefyd raglen gyson o wiriadau i brofi:

  • Offer ymladd tân yn yr adeiladau
  • Goleuadau argyfwng
  • Diogelwch trydan; a
  • Larymau mwg

Mae gennym asesiadau cyfredol o risg tân yn ein blociau tŵr ac rydym yn cydymffurfio'n llwyr gyda chanllawiau ar ddiogelwch tân.

Pa fesurau diogelwch tân sydd yn y blociau tŵr?

  • Larymau mwg/tân ym mhob cartref ac ardaloedd cymunol
  • Paent atal tân mewn ardaloedd cymunol
  • Drysau tân newydd ar gyfer ardaloedd cymunol a drysau blaen fflatiau unigol
  • Ailweirio pob fflat ac ardal gymunol
  • Cladin Rockwool yn cyflawni'r holl reoliadau adeiladu a dosbarthiad tân o A1
  • Rhwystrau tân rhwng lloriau
  • Gall llwyfan symudol y gwasanaeth tân gyrraedd top ein blociau tŵr, os oes angen hynny

Beth allwch chi ei wneud?

Ar hyn o bryd rydym yn profi eich larymau mwg bob blwyddyn a'r trydan bob pum mlynedd. I wneud hyn, mae angen i chi adael i ni fynd mewn i'ch cartref. Gofynnwn i chi'n helpu i'ch cadw'n ddiogel. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 01633 381111 neu enquiries@newportcityhomes.com

I lawrlwytho'r ddogfen lawn, cliciwch yma.