Ceri Doyle, prif swyddog gweithredol

Daeth Ceri Doyle yn brif swyddog gweithredol ym Medi 2014.

Mae ganddi brofiad eang yn ymestyn o iechyd i addysg, cyllid a datblygu cymunedol.

Gyda'r Gronfa Loteri Fawr bu Ceri’n dal y swyddi canlynol:

  • Prif Swyddog Gweithredol (Dros dro)
  • Cyfarwyddydd Strategaeth, Perfformiad a Dysgu
  • Cyfarwyddydd (Cymru)

Mae wedi ffurfio rhaglenni ariannu arloesol gyda Chynulliad Cymru. Sefydlodd y Gronfa Loteri Fawr fel cyllidydd, partner a dylanwadydd effeithiol gyda’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Mae Ceri hefyd wedi dal swyddi uchel mewn llywodraeth leol yn yr Alban. Cyflwynodd nifer o bartneriaethau arloesol gan ddefnyddio arian o ffynonellau Ewropeaidd, y loteri a menter cyllid preifat. Sefydlodd Ceri hefyd sefydliadau dielw i fynd i’r afael â diweithdra ac adfywio cymunedol yn yr ardal.

Yn un a gyrhaeddodd rownd derfynol Cymraes y Flwyddyn, mae Ceri wedi dal nifer o safleoedd anweithredol yn y sectorau iechyd ac addysg. Bu’n gwasanaethu ar y Grŵp Ymgynghorol Gweinidogaethol ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu ar fwrdd datblygu Amgueddfa Cymru ac yn aelod o fwrdd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru.

Mae Ceri’n ar dân dros Gasnewydd a gweledigaeth Cartrefi Dinas Casnewydd (NCH). Mae hi eisiau sicrhau fod ein gwasanaethau, ein pobl a’n dinas gystal ag mae’n bosib iddyn nhw fod.

Rob Lynbeck, cyfarwyddydd gweithredol gweithrediadau

Mae gan Rob Lynbeck yrfa nodedig mewn tai yn ymestyn dros 40 mlynedd.

Mae ei arbenigedd yn cynnwys adfywio, tai ac eiddo. Mae Rob wedi casglu cyfoeth o brofiad mewn caffael tir a thai fforddiadwy. Roedd hefyd yn allweddol wrth adeiladu asedau cymunedol eraill fel ysgolion a chanolfannau hamdden.

Mae Rob wedi rheoli rhaglenni cyfalaf pwysig gyda chyllidebau o fwy na £70 miliwn.

Ymhlith ei swyddi yn y gorffennol mae:

  • Cyfarwyddydd tai, eiddo a stadau yng Nghyngor Sir Mynwy
  • Cyfarwyddydd ac adfywio ardal yng Nghyngor Dinas Casnewydd

Bu Rob yn ymgynghorydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae nawr yn ymgynghorydd i Swyddfa’r Cabinet. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Moneyline Cymru.

Mae Rob yn caru Casnewydd a diben NCH. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai mewn cymunedau ble mae pobl eisiau byw.

Tim Jackson, cyfarwyddydd gweithredol cyllid ac adnoddau

This is Tim

Daeth Tim Jackson yn gyfarwyddydd adnoddau NCH yn Nhachwedd 2016.

Yn gyfrifydd siartredig, daeth yno o Golding Homes yng Nghaint, lle’r oedd yn gyfarwyddydd adnoddau. Mae ganddo fwy na 25 mlynedd o brofiad yn y sector, 14 o’r rheini ar lefel cyfarwyddydd.

Mae sgiliau allweddol Tim yn cynnwys:

  • Cyllid arloesol
  • Symbylu twf
  • Rheoli risg
  • Symbylu a datblygu staff

Mae ganddo brofiad cadarn o ail-gyllido. O fewn deng mlynedd fe gododd £300 miliwn o ddyled newydd ac ail-negodi £200 miliwn ychwanegol.

Mae Tim wedi arwain digwyddiadau ariannu am y 15 mlynedd diwethaf. Mae ganddo brofiad hefyd o arwain timoedd Technoleg Gwybodaeth, Adnoddau Dynol, Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau corfforaethol eraill. Mae Tim yn credu mewn effeithlonrwydd ac arloesi. Mae hefyd yn credu mewn tyfu busnesau gan ganolbwyntio ar y risgiau cysylltiedig.

Mae’n frwd ynglŷn a thai cymdeithasol ac yn gobeithio defnyddio’i brofiad blaenorol o dwf i sbarduno rhaglen newid mewnol a chynlluniau datblygu uchelgeisiol NCH.