Wythnos Arbed Ynni Fawr
Mae'r wythnos arbed ynni fawr yn dechrau ddydd Llun 21 Ionawr 2019. Ymgyrch genedlaethol ydyw i helpu pobl i leihau eu biliau ynni a chael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
Mae'r wythnos yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut i arbed arian ar gostau ynni drwy newid cyflenwr neu dariff ynni, cael gafael ar ostyngiadau neu grantiau, a gwneud cartrefi yn fwy ynni-effeithlon.
Defnyddiwch offeryn cymharu prisiau ynni Cyngor ar Bopeth i weld a allwch arbed arian drwy newid tariff ynni neu gyflenwr. Mynnwch gyngor ar ynni, dyled a budd-daliadau.
Arbedwch arian ar eich biliau ynni
- Gwiriwch eich bod yn cael y fargen egni orau.
- Newid cyflenwr neu dariff ynni.
- Arbed ynni ac arian.
Gallwch hefyd gael gwybod mwy am gael cymorth ariannol.